Crefftau

  • Img 9321

Croeso i Gymdeithas Crefftau a Gwnïo Bangor! Rydym yn gymdeithas sydd wrth ein bodd â phob math o grefftau. Rydym yn cynnal gweithdai rheolaidd, gyda'r nod o fod mor gynaliadwy a chyfeillgar i'r amgylchedd â phosibl.

Gallwn eich helpu i ddysgu crefftau newydd, ac mae’r sesiynau'n amrywio o origami, gwneud potiau i blanhigion, gwau, crosio a phwytho croes at wneud gemwaith, gwneud cortynnau, plannu perlysiau, uwchgylchu, clai, paentio, a llawer mwy. 

Rydym yn barod ar gyfer y flwyddyn sydd o’n blaenau - p'un a byddwn yn cwrdd yn bersonol neu ar-lein, mae gennym ddigonedd i'w gynnig! I ddangos ein hymroddiad i chi i gyd rydym wedi creu her crefftau 30 diwrnod, sydd ar gael ar ein tudalen Facebook ynghyd â thiwtorialau fideo i'ch tywys. Ein nod yw parhau i gynnal digwyddiadau cymdeithasol i godi arian, digwyddiadau cymdeithasol ar-lein a theithiau cerdded i fyd natur, naill ai'n real (os yw'n ddiogel!) neu’n rhithiol trwy’r rhyngrwyd! 
🌍🌱

Rydym hefyd yn agored i unrhyw awgrymiadau a sylwadau sydd gennych, p'un a yw'n syniad am grefft newydd neu sut i wella ar grefft. Mae hefyd croeso i unrhyw un arwain gweithdy; gofynnwch i un o aelodau'r pwyllgor a byddant yn hapus i'ch helpu gyda hyn.

Aelod Pwyllgor y Gymdeithas Grefftau 20/21 yw;
Cadeirydd: Arta Crossman
Ysgrifennydd: Sophie Todd
Trysorydd: Alyssa Ashby
Ysgrifennydd Cymdeithasol: Pati Bialecka

Mae croeso i bawb ymuno a chymryd rhan; p'un a ydych chi'n ddechreuwr neu'n arbenigwr! Mae'r Gymdeithas Grefftau yn gymdeithas hamddenol ac agos atoch ac yn gyfle i bawb fwynhau crefft. Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld chi i gyd ac yn addo y cewch chi amser da gyda ni.

Diolch yn fawr!
Y Pwyllgor x

Amseroedd Cyfarfod

Dydd Mawrth @ Neuadd JMJ:

Côr Merched: 5:30 - 6:30

Côr Bechgyn: 6:45 - 7:30

Côr SATB: 7:45 - 8:30