A oes gennych chi ddiddordeb mewn astudio infertebratau? Ymunwch â'r Gymdeithas Entomoleg i gymryd rhan mewn digwyddiadau sy’n arddangos a thrin anifeiliaid, teithiau cerdded infertebratau, nosweithiau trapio gwyfynod a threfnu nosweithiau gyda chwisiau, ffilmiau a siaradwyr gwadd.

 

Ymunwch â theithiau gwylio adar wythnosol o amgylch gogledd Cymru gyda'r Gymdeithas Gwylio Adar.

 

Ymunwch â Chymdeithas Endeavour i drefnu sgyrsiau wythnosol, digwyddiadau a theithiau'n ymwneud â phob agwedd ar wyddorau'r eigion, o fioleg a daeareg i beirianneg, cemeg a chadwraeth.

 

Ymunwch â’r Gymdeithas Coedwigaeth i ddatblygu gwybodaeth am goedwigaeth, sgiliau a chysylltiadau rhwydweithio. Gallwch fynychu sgyrsiau academaidd gan weithwyr proffesiynol coedwigaeth ac amgylcheddol, sy'n rhoi cipolwg gwerthfawr ar y byd gwaith, ynghyd â chynnig cyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau rheoli coetiroedd ymarferol trwy ddiwrnodau gwirfoddolwyr yn agos i Fangor.

 

A oes gennych chi ddiddordeb brwd yn y gwyddorau naturiol neu ddiddordeb mewn materion byd-eang a chymdeithasol cyfoes? Os oes, mae'r Gymdeithas Ddaearyddiaeth yn berffaith i chi.

 

Ymunwch â'r Gymdeithas Herpetolegol i fynychu digwyddiadau trin anifeiliaid, ymgymryd â gwaith ymarferol gyda Grŵp Amffibiaid ac Ymlusgiaid Gogledd-orllewin Cymru, a helpu i gynnal sgyrsiau trwy gydol y flwyddyn i groesawu siaradwyr gwadd sy’n ymdrin â phynciau amrywiol, o Dacsonomeg a geneteg i Gadwraeth a Hwsmonaeth.

 

Mae’r Gymdeithas Swolegol yn gymdeithas i unrhyw un sydd wrth eu bodd ag anifeiliaid, ac mae’n cynnig profiadau ymarferol amrywiol, gan gynnwys sesiynau trin a thrafod ymlusgiaid, gwylio dolffiniaid o’r tir ar Ynys Môn, teithiau i Sw Caer a gwirfoddoli yn Tenerife.