Gallwch wirfoddoli i wella ein Gerddi Iachau sy’n cael eu cynnal dan arweiniad myfyrwyr, a chreu hafan i fywyd gwyllt lleol, yn ogystal ag ardal i’n cymuned leol ymlacio a chysylltu â’i gilydd.

 

Gallwch wirfoddoli gyda Grŵp Gweithredu Myfyrwyr Treborth i reoli a datblygu Gardd Fotaneg, wedi'i lleoli ar lannau'r Fenai.

 

Beth am wirfoddoli gyda Go Fairtrade i gefnogi cynhyrchwyr Masnach Deg ar raddfa fach yn Affrica drwy ledaenu’r neges am fanteision Masnach Deg i’r gymuned gyfan, hyrwyddo eu nwyddau a nodi cynnyrch newydd a allai fod yn Fasnach Deg?

 

Gallwch wirfoddoli gyda Gwynedd Werdd a chymryd rhan mewn gweithgareddau cadwraeth ymarferol, megis plannu coed, chwalu ffromlys chwarennog, gwneud cychod gwenyn a llawer mwy.

 

Gallwch wirfoddoli gyda’r grŵp Cyfeillgar i Ddraenogod i fonitro niferoedd y draenogod ar y campws a datblygu ardaloedd sy’n fwy cyfeillgar i ddraenogod, er mwyn helpu i gynyddu’r niferoedd!

 

Beth am wirfoddoli gyda noddfa Snowdonia Donkeys ar ein Project Asyn i gefnogi gwaith i amddiffyn y tir o amgylch y noddfa, mynd â’r asynnod am dro a gofalu am eu lles?

 

Cymerwch ran yn ein digwyddiadau Glanhau traeth trwy gydol y flwyddyn i helpu i warchod ein harfordir lleol wrth fwynhau'r harddwch naturiol sydd ganddo i'w gynnig!

 

Gwirfoddolwch gyda’r Dreigiau Llwglyd, a helpwch i godi ymwybyddiaeth o wastraff bwyd, annog arferion cynaliadwy a defnyddio ffrwythau a llysiau dros ben i greu cyffeithiau blasus.

 

Gallwch ymuno â Chlwb Cadwraeth Dŵr Croyw a chydweithio â sefydliadau ledled Cymru i gynnal sesiynau glanhau afonydd a llynnoedd, ennill sgiliau gwerthfawr trwy gyfleoedd hyfforddiant cadwraeth a mwynhau digwyddiadau cymdeithasol, megis nofio gwyllt a snorcelio.

 

Campaign with our Period Poverty and Dignity project to educate, empower and inspire students around menstruation and environmentally friendly period products.  

 

Gwirfoddolwch i blannu coed a chlirio llwybrau troed ym Mryn Ifan, gwarchodfa newydd Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ym Mhen Llyn.

 

Profwch eich sgiliau trwsio, ac ewch ati i wirfoddoli yn un o'n Caffis Trwsio i helpu i drwsio eitemau trydanol, beiciau a thecstilau y mae myfyrwyr ac aelodau'r cyhoedd yn eu cyflwyno i'w trwsio.

 

Gallwch ymuno ag Afonydd Menai i fonitro niferoedd llygod pengrwn yn y dŵr lleol, trapio camerâu a nodi llwybrau ac arwyddion bywyd gwyllt.