Gallwch wirfoddoli gyda'r Project Prydau Poeth i goginio a rhoi prydau poeth am ddim i bobl yn y gymuned ar brynhawniau Sadwrn.

 

Helpwch i gasglu rhoddion banc bwyd gyda’r Big Give, a danfon y rhoddion i'n banciau bwyd lleol.

 

Gallwch godi arian a chodi ymwybyddiaeth ar gyfer Cŵn Tywys i bobl ddall a darparu cefnogaeth a fydd yn newid byd i bobl sydd â nam ar eu golwg.

 

Gwirfoddolwch gyda’r grŵp Cyswllt neu’r grŵp Cyfeillion Lles, i gynnig cyfle i fyfyrwyr fynd gwrdd â phobl newydd, gan wella eu profiad o’r brifysgol a chefnogi eu lles.

 

Gallwch wirfoddoli i helpu i leihau unigrwydd a theimladau ynysig ymysg y gymuned hŷn leol, gan gefnogi ein teithiau Mynd am Dro yn yr ardal leol neu un o'n teithiau Te Parti blynyddol ar y campws.

 

Gwirfoddolwch gyda’r Literacy Pirates i ddatblygu llythrennedd, hyder a dyfalbarhad ymysg plant sydd ar ei hôl hi yn y dosbarth ac sy’n cael llai o gyfleoedd yn eu bywydau personol.

 

Gallwch wirfoddoli yn Sbectrwm ar nos Iau i roi cyfle i blant awtistig gymdeithasu mewn amgylchedd diogel a chefnogol, wrth hefyd roi rhywfaint o seibiant mawr ei angen i rieni.

 

Beth am wirfoddoli gyda Sblat a helpu i gyflwyno sesiynau chwarae ar ôl ysgol wythnosol ar nos Fercher i blant 5-7 oed?