Lansiwyd ein Her Cynaliadwyedd newydd ar gyfer grwpiau myfyrwyr! Pwrpas yr her hon yw annog grwpiau i weithredu a phrynu eitemau mwy cynaliadwy ar gyfer eu gweithgareddau a'u sesiynau o wythnos i wythnos. Rhaid i grwpiau gyflwyno tystiolaeth tua diwedd y flwyddyn, a bydd y clwb chwaraeon, y gymdeithas a’r project gwirfoddoli sy’n cyflwyno ac yn dilysu’r nifer uchaf o dystiolaeth yn ennill y wobr. Mae’r tasgau y gellir eu cwblhau fel rhan o’r wobr yn cynnwys siopa’n fwy cynaliadwy a chymryd rhan mewn sesiynau codi sbwriel, yn ogystal â chymryd rhan mewn digwyddiadau cymunedol a phostio negeseuon dwyieithog ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma!