Addasrwydd i Ymarfer / Ffitrwydd i Ymarfer


Os ydych chi'n dilyn un o gyrsiau'r brifysgol sy'n arwain yn uniongyrchol at gymhwyster proffesiynol, mae gan y brifysgol ddyletswydd i sicrhau eich bod yn cyflawni'r deilliannau dysgu sy'n cael eu pennu gan y cyrff proffesiynol perthnasol ac i sicrhau eich bod yn 'addas i ymarfer'


Mae gan y brifysgol ddyletswydd gofal i ymateb yn briodol lle mae pryderon sylweddol am iechyd a lles myfyriwr a'r effaith a all hynny ei gael ar yr unigolyn a/neu aelodau eraill o gymuned y brifysgol.  Gall ymddygiad, agwedd, perfformiad neu faterion yn ymwneud ag iechyd sbarduno ymchwiliad addasrwydd i ymarfer. Mae ymddygiad yn y dosbarth ac yn ystod cyfnodau ar leoliad yn berthnasol, ond bydd eich ymddygiad y tu allan i'r cwrs hefyd yn cael ei gymryd i ystyriaeth.


Os codir cwestiynau ynglŷn ag ymddygiad neu iechyd myfyriwr, gellir cychwyn ar drefn Addasrwydd i Ymarfer.
(Diben y drefn hon yw cefnogi myfyrwyr a staff wrth reoli sefyllfaoedd a digwyddiadau sy'n achosi pryder sylweddol.)

 
Os ydych yn poeni am eich iechyd neu'ch lles neu os yw aelod staff/gweithiwr proffesiynol wedi codi pryder amdanoch chi, mae'r drefn hon yma i'ch amddiffyn chi a'r rhai o'ch cwmpas. Nid oes disgwyl i chi reoli sefyllfaoedd o'r fath a dylech bob amser hysbysu aelod o staff neu siarad gyda ni yn y Tîm Llais Myfyrwyr.)


Gallwch weld y drefn yma. 


Beth yw'r broses?