Ein Haddewid

Datganiad Cynaliadwyedd Undeb Bangor

Mae Undeb Bangor wedi ymrwymo i ddatblygu sefydliad cwbl gynaliadwy. Rydym wedi ymrwymo i wella lles myfyrwyr Prifysgol Bangor, drwy ystyried eu lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol, a byddwn yn gweithio gyda'n cymuned o fyfyrwyr ac ystod eang o hapddalwyr i wireddu ein nodau yn y maes hwn. Byddwn yn gweithio i addasu ac integreiddio saith nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, i ddiwallu anghenion ein haelodau a'n sefydliad ac felly byddwn y ceisio creu cymdeithas ddwyieithog ddeinamig, llawn dychymyg, teg a llewyrchus a all fod yn gatalydd ar gyfer dyfodol mwy disglair i Brifysgol Bangor, ei myfyrwyr a'r gymuned leol.