IL Addysg
Mae James Avison newydd orffen astudio MSc Busnes gyda Seicoleg Defnyddwyr a BSc mewn Dylunio Cynnyrch gyda Phrofiad Rhyngwladol yma ym Mhrifysgol Bangor. Mae wedi cael ei ethol iโch gwasanaethu fel Is-lywydd Addysg.
Magwyd James yn Swydd Nottingham cyn symud i Fangor i ddechrau astudio yma yn 2015. Yn ei amser hamdden mae'n mwynhau beicio, tenis a'r celfyddydau perfformio.
Yn y flwyddyn academaidd 2017-18 cymerodd ran yn y rhaglen Erasmus ar leoliad gwaith yn DTT Multimedia yn yr Iseldiroedd, yn dylunio a threialu apiau.
Mae wedi bod yn ymroddedig trwy gydol ei gyfnod ym Mangor i gyflwyno newid cadarnhaol yn y brifysgol ac mae cael ei ethol yn Is-lywydd Addysg yn rhoiโr cyfle iddo wneud gwir wahaniaeth a chyfrannu at les myfyrwyr.
Mae James yn benderfynol o wrando ar bryderon myfyrwyr, yn arbennig o ran yr effaith y gallai pandemig Covid-19 ei chael ar eu hastudiaethau. Ei flaenoriaethau ar gyfer eleni yw: Cynaliadwyedd, Cyflogadwyedd, Cefnogaeth Iechyd Meddwl a Chefnogaeth รl-Brexit i Fyfyrwyr Rhyngwladol.