Bioleg

  • Biosoc

Croeso i’r Gymdeithas Fioleg! - cymdeithas ar gyfer pawb, nid dim ond Biolegwyr.

Rydym yn croesawu myfyrwyr o bob cefndir biolegol sy'n rhannu diddordeb mewn bioleg, biotechnoleg, cadwraeth, ymddygiad anifeiliaid, seicoleg, sŵoleg, etc. ac yn chwilfrydig i wybod mwy! Nid oes angen i chi fod yn astudio Bioleg neu Sŵoleg nac unrhyw radd wyddoniaeth arall i ymuno â'n cymdeithas ac rydym yn annog pob myfyriwr (ac aelod staff!) sydd â diddordeb yn yr amrywiaeth o bynciau y byddwn yn eu trafod i ddod atom i adeilad Brambell bob nos Iau am 7pm.

Rydym yn cynnig sgyrsiau/seminarau wythnosol yn bennaf a draddodir gan staff yr Ysgol Gwyddorau Naturiol ynghyd â siaradwyr gwadd o brifysgolion a mudiadau lleol, digwyddiadau cydweithredol gyda chymdeithasau myfyrwyr eraill a hefyd teithiau tramor i wledydd sy'n enwog am eu hymchwil wyddonol, eu hymdrechion cadwraeth, a llawer mwy!

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwybod mwy, gadewch neges ar ein cyfryngau cymdeithasol ac ymunwch â'n tudalen Facebook i gael y newyddion diweddaraf rheolaidd am ein digwyddiadau.

Amseroedd Cyfarfod

Cysylltwch hefo ni: