19.08.2020
Ychydig dros ddeufis yn รดl, dechreuais ar fy nhymor gwaith fel yr Is-lywydd Addysg yma yn Undeb Bangor ac wrth gwrs roedd hi'n amser diddorol iawn i ddechrau yn y swydd. Ers fy niwrnod cyntaf rwyf wedi bod yn gweithio gartref, ym Mangor ond hefyd yn fy nhref enedigol, rhywbeth nad oeddwn wedi ei ragweld o gwbl pan wnes i sefyll yn yr etholiad yn รดl ym mis Mawrth.
Er gwaethaf yr heriau a achoswyd gan y pandemig rydw i a gweddill y tรฎm wedi llwyddo i wneud cynnydd sylweddol รข'n cynlluniau ar gyfer y flwyddyn academaidd i ddod yn ogystal รข chefnogi myfyrwyr a'r brifysgol yn ei chyfanrwydd.
Fy nghyfrifoldeb cyntaf yn y swydd oedd cyflwyno ymateb ac adborth y grwpiau ffocws o gynrychiolwyr myfyrwyr i Bwyllgor Gweithredu'r Brifysgol a'r grwpiau cynllunio perthnasol ar gyfer mis Medi. Golygai hyn fod y brifysgol yn ymwybodol o farn myfyrwyr ynghylch yr addysgu ar-lein dros y cyfnod cloi ac yn cael gwybod sut y gallwn wella'r sefyllfa i fyfyrwyr ym mis Medi. Bydd hon yn broses barhaus o adborth i sicrhau bod y brifysgol yn ymateb yn bwrpasol a bod y myfyrwyr yn fodlon รข'u profiad academaidd cyfunol.
Rydw i hefyd wedi bod i gynhadledd Arwain a Newid UCM a Chynhadledd Y Talwrn UCM Cymru. Rhoddodd y cynadleddau hyn y cyfle imi rwydweithio a thrafod syniadau gyda swyddogion sabothol eraill dros y wlad. Un o brif fanteision y cynadleddau oedd trafod sut y mae pob prifysgol yn ymdrin รข materion penodol fel cynaliadwyedd a sut mae Bangor yn llwyddo neu efallai ddim yn gwneud cystal ag y gallem fod yn ei wneud.
Rwyf hefyd yn y broses o gynllunio sut i roi addewidion fy maniffesto ar waith. Oherwydd y pandemig mae fy mlaenoriaethau wedi newid ychydig gan fod angen i mi flaenoriaethu adborth ac ymgysylltu รข myfyrwyr i roi cynrychiolaeth lawn i bryderon myfyrwyr ynghylch y flwyddyn academaidd i ddod mewn hinsawdd o ansicrwydd ynglลทn รข Covid. Serch hynny, rwy'n dal i fwriadu gwireddu addewidion fy maniffesto ac wedi bod yn cael sgyrsiau rheolaidd gyda'r tรฎm Cynaliadwyedd ac adrannau prifysgol eraill i weld sut y gellir rhoi'r addewidion maniffesto hynny ar waith yn llwyddiannus.
Mae croeso i chi ychwanegu fy nghyfrif facebook, James Undeb Bangor Avison, lle byddaf yn rhoi'r newyddion diweddaraf yn rheolaidd neu gysylltu รข mi drwy e-bost ar james.avison@undebbangor.com os oes gennych unrhyw bryderon/adborth penodol am eich profiad academaidd. Cadwch yn ddiogel a mwynhewch weddill yr haf.
Hwyl,
James