Dydd Gwener 09-10-2020 - 09:00
Fel rydych efallai wedi ei glywed mae'r Brifysgol ar hyn o bryd yn profi heriau ariannol sy'n golygu y bydd angen gwneud arbedion ac mae'n annhebygol y bydd y Brifysgol yn dychwelyd i'r ffordd yr oedd pethau cyn y pandemig.
Fel undeb myfyrwyr, ein blaenoriaeth ni yw eich lles a'ch profiad chi, a byddwn yn gweithio'n agos gyda'r Brifysgol i sicrhau bod Llais y Myfyrwyr yn ganolog i bob sgwrs a bod y profiad myfyriwr wrth wraidd unrhyw benderfyniadau dilynol. Rydym wedi cychwyn ar drefnu grwpiau ffocws myfyrwyr i sicrhau bod gennych chiโr cyfle i roi adborth mewn modd effeithiol.
Os oes gennych unrhyw adborth, sylwadau neu bryderon anfonwch e-bost atom, ar studentvoice@undebbangor.com