Flwyddyn ers i’r Brifysgol lansio ei Strategaeth Iechyd Meddwl a Lles

Dydd Iau 10-12-2020 - 14:01
Mental health support

Flwyddyn ers i’r Brifysgol lansio ei Strategaeth Iechyd Meddwl a Lles dan Arweiniad Myfyrwyr, roeddem ni - y Grŵp Gweithredu - yn meddwl tybed a hoffech glywed am rai o'r gweithgareddau a gynhaliwyd yn 2020 i gefnogi myfyrwyr - er gwaethaf - neu oherwydd - COVID - a sut mae’r gweithgareddau hynny’n cyd-fynd â'n pum nod strategol:

Cyfathrebu Clir

Rydym wedi anfon bwletinau rheolaidd yn y newyddlen staff ac yn newyddlen y myfyrwyr am y gefnogaeth sydd ar gael

Rydym wedi creu tudalennau gwe ychwanegol ar gyfer cymorth iechyd meddwl a chymorth COVID

Hyrwyddo iechyd a lles

Cynhaliwyd llawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau amrywiol gan glybiau a chymdeithasau’r Undeb Bangor - er enghraifft:

TheraPanad - Sesiwn ioga a sgwrsio dros Microsoft Teams bob dydd Llun 10-12

Sesiynau Lles bob Dydd Mercher: heriau wythnosol i atgoffa myfyrwyr am bwysigrwydd gofalu am eu lles eu hunain.  Mae Bagiau Lles wedi bod ar gael i fyfyrwyr yn Bar Uno.

Gerddi Iachau: Sesiynau garddio yn y Gerddi Iachau, sef yr ardd gymunedol dan arweiniad myfyrwyr yn Fron Heulog, wrth ymyl Eglwys Sant Ioan ar Ffordd Ffriddoedd.

Sesiynau galw heibio Ymwybyddiaeth Ofalgar ar-lein, a gynhelir gan staff y Gwasanaeth Cwnsela

Adeiladu ein Cymuned

Mae Cyswllt@Bangor yn rhoi myfyrwyr â gwirfoddolwyr a ddewiswyd yn ofalus mewn cyswllt â’i gilydd - cyfeillion lles. Mae'r cyfeillion yn cefnogi myfyrwyr fel ffrind ac yn rhoi cefnogaeth iddynt gydag agweddau cymdeithasol o fywyd prifysgol.

Mae’r gymdeithas Cerdded a Sgwrsio yn cynnig teithiau cerdded wythnosol i fyfyrwyr gael cwrdd â phobl newydd, cael gwared â straen a chrwydro Bangor, ynghyd â sgyrsiau amser te dros Zoom

Mae ystod o weithgareddau wedi cael eu cynnal gan staff y Gaplaniaeth, sy'n estyn allan yn fugeiliol - gan gynnwys grwpiau trafod ar-lein, digwyddiadau cymdeithasol a 'chaffis Zoom'. Mae'r Gaplaniaeth Gatholig hefyd wedi bod yn cynnal 'Nosweithiau Tafarn Rhithwir' yn rheolaidd ar nos Wener a 'Nosweithiau Ffilm Ar-lein' ar nos Sul.

Digwyddiadau lles rheolaidd ar-lein ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol, gan gynnwys sesiynau cwestiwn ac ateb ynglŷn â hybu iechyd meddwl, a goroesi’r cyfnod clo

Mewn ysgolion academaidd, bu llawer o weithgareddau newydd gan gynnwys:

  • Sesiynau ychwanegol ac anffurfiol arlein i roi cyfle i fyfyrwyr newydd ddod i adnabod ei gilydd a'u darlithwyr. (Saesneg)
  • Trefnu cwisiau a phartïon ffilm arlein. (⁠Cyfryngau)
  • 'Y Sba Astudio' ar gyfer myfyrwyr o'r gwahanol feysydd pwnc o fewn yr ysgol.  'Paned Arlein' wythnosol - yn Gymraeg a Saesneg (Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas)
  • 'Y Gornel Sgwrsio' ar gyfer myfyrwyr sy’n bryderus (Seicoleg)
  • Newyddlen fisol i fyfyrwyr yn ogystal â safle Blackboard 'Cymuned/Community'. (Y Gyfraith)
  • Grŵp 'Microsoft Teams' ar gyfer pob blwyddyn, wedi'i hwyluso gan diwtor y grŵp blwyddyn. (Ysgol Busnes)
  • Creu 'padlet' rheolaidd ar gyfer myfyrwyr (Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio)
  • Cyfarfodydd a digwyddiadau arlein ar gyfer myfyrwyr ymchwil ôl-radd (ar draws y Dyniaethau, Celfyddydau a Busnes)

Gwella ein gwybodaeth

Cynigir cefnogaeth ychwanegol i fentoriaid neuaddau wrth eu gwaith trwy gyfrwng cyfarfodydd adfyfyrio ar ymarfer

Mae hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl bellach ar gael ar-lein ar gyfer staff sy'n cefnogi myfyrwyr a phobl allweddol yn yr Undeb Bangor.

Mae hyfforddiant gwytnwch emosiynol yn cael ei gyflwyno gan yr Undeb Bangor

Mae staff cwnsela yn y Gwasanaethau Myfyrwyr wedi cael llawer o hyfforddiant i ddarparu therapïau ar-lein, a bu hynny ar gael yn ystod y cyfnodau clo a thu hwnt i hynny

Cael cymorth pan fydd ei angen

Cynhelir trafodaeth grŵp ar-lein gyda’r Cynghorwyr Iechyd Meddwl ar Microsoft Teams, bob dydd Mercher am 1pm, i siarad am bob agwedd ar les.

Gall myfyrwyr hefyd siarad yn breifat â'r Cynghorwyr Iechyd Meddwl yn ystod y Sesiynau Galw Heibio rhwng 2pm a 3.30pm bob prynhawn Mercher

Cymorth cyflymach mewn ysgolion academaidd - er enghraifft, mae Seicoleg yn cynnig cyfarfodydd brys gyda thiwtoriaid

Mae'r Gwasanaeth Cwnsela yn parhau i gynnig sesiynau cefnogi ar-lein y gellir eu harchebu ar yr un diwrnod, ac yn ddiweddar mae’r gwasanaeth wedi dechrau darparu cefnogaeth y tu allan i oriau, gyda'r nos ac ar benwythnosau

Mae’r projectau cyfredol a ariennir gan HEFCW yn cynnwys diogelu, cefnogaeth ychwanegol i fyfyrwyr yn ystod pandemig COVID, a datblygu gwefan iechyd meddwl Gymraeg, a fydd yn cael ei lansio cyn bo hir.

Os oes gennych ragor o enghreifftiau o arferion da, llwyddiannau - neu feysydd sydd angen sylw, cysylltwch â ni. Cysylltwch â Katie Tew ar Katie.tew@undebbangor.com

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Bangor Students' Union

Rhagor o erthyglau...