Tîm Sabothol Newydd

Dydd Mercher 02-09-2020 - 15:47

Bob blwyddyn mae Undeb Bangor, Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn croesawu tîm newydd o swyddogion sabothol. Mae’r swyddogion sabothol, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel y Sabbs yn cael ei ethol bob blwyddyn mewn etholiad traws-gampws yn gynnar yn y flwyddyn cyn cychwyn ei swydd yn fis Gorffennaf.

Mae’r Sabbs yma i gynrychioli'r corff myfyrwyr a'u llais gyda bob math o faterion sydd o bwys i fyfyrwyr. Yma ym Mangor gennym ni 5 swyddog sydd yn gweithio llawn amser i sicrhau eich bod chi, ein myfyrwyr, yn cael y profiad orau bosib tra yma. Dyma gyflwyniad sydyn i’r Sabbs blwyddyn yma a beth yw pwrpas eu rôl.

 

Henry Williams - Llywydd

Hon fydd ail flwyddyn Henry fel Blwyddyn Swyddog Sabothol. Roedd Henry yn Is-lywydd Chwaraeon y llynedd a safodd yn yr Is-Etholiad eleni i ddod yn Llywydd newydd yr undeb. Henry yw prif gynrychiolydd yr undeb wrth weithio gyda Gweithrediaeth y Brifysgol, a chyrff a phwyllgorau prifysgolion cysylltiedig eraill. Ef hefyd yw prif gyswllt yr undeb â'r gymuned leol yn ogystal â'r cyfryngau lleol a chenedlaethol. Fel cadeirydd y Bwrdd Ymddiriedolwyr, mae gan Henry gyfrifoldeb ariannol a chyfreithiol dros yr undeb hefyd ac mae'n chwarae rhan hanfodol yn gyfeiriad yr undeb. Mae ganddo oruchwyliaeth ar bob rhan o'r undeb, gan gadeirio ein cyfarfodydd Swyddogion Sabothol mewnol a'r Pwyllgor Gweithredol.

 

James Avison - Is-lywydd Addysg

Mae James yn gyfrifol am gylch gwaith Addysg yr Undeb, gan ganolbwyntio'n benodol ar faterion polisi, cyllid ac ansawdd addysg genedlaethol a lleol. Mae James yn edrych allan am yr holl fyfyrwyr, mae hyn yn cynnwys israddedigion ac ôl-raddedigion. Mae system Cynrychiolwyr Cwrs Undeb Bangor yn system lwyddiannus sy'n arwain at lawer o newidiadau i addysg ein myfyrwyr bob blwyddyn. Mae James yn gweithio'n agos gyda'n Cynrychiolwyr Cwrs i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed.

 

Katie Tew - Is-lywydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli

Katie yw’r swyddog sy’n gyfrifol am gylch gwaith Cymdeithasau a Gwirfoddoli Undeb y Myfyrwyr a’i weithrediad a’i gyllid, a sicrhau bod gan ei chymdeithasau'r adnoddau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i weithredu.

 

Iwan Evans - Llywydd UMCB

Fel Llywydd UMCB (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor) bydd Iwan Evans yn cynrychioli’r myfyrwyr sy’n siaradwyr neu’n ddysgwyr Cymraeg yn academaidd ac yn gweithio i gynnig cyfleoedd ar eu cyfer drwy gyfrwng yr Iaith Gymraeg. Bydd hefyd yn cynrychioli’r myfyrwyr sy’n siaradwyr Cymraeg ar lu o gyfarfodydd y Brifysgol yn sicrhau fod eu llais yn cael eu clywed yn gyson. Yn ogystal, bydd yn trefnu ac yn cynnal ymgyrchoedd yn ymwneud â’r iaith â’i diwylliant i godi ymwybyddiaeth ohoni o fewn yr Undeb a’r Brifysgol.

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Bangor Students' Union

Rhagor o erthyglau...