Croeso i Hafan y Cynrychiolwyr Cwrs


Cofrestrwch i fod yn gynrychiolydd!

Rydym yn recriwtio cynrychiolwyr cwrs rwan ar gyfer 2023-24. Cliciwch yma i gofrestru!


 

 

Cofrestrwch i fod yn gynrychiolydd!

Rydym yn recriwtio cynrychiolwyr cwrs trwy gydol y flwyddyn, felly os oes gennych chi ddiddordeb cynrychioli myfyrwyr, eisiau gwneud newidiadau i'ch cwrs neu ddim ond eisiau ymwneud mwy â'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr, cliciwch isod i gael rhagor o wybodaeth, neu i gofrestru!

  

 

Sylwadau

Oes gennych chi syniad gwych o ran sut i wella’ch ysgol? Neu efallai yr hoffech chi weld rhai gwelliannau i fodiwl penodol? Hyd yn oed os oes arnoch chi ond eisiau dweud wrthym ni pa mor anhygoel yw un o'ch darlithwyr, hoffem glywed hynny!

Cliciwch y botwm isod i gyflwyno’ch adborth am eich cwrs, a gall y cynrychiolwyr ymchwilio i’r mater a gweld beth sydd angen ei wneud i sicrhau bod eich profiad academaidd y gorau y gall fod!

Link to digital rep

 

Dewch o hyd i'ch cynrychiolydd

Cliciwch ar y ddolen yma i ddod o hyd i fanylion cyswllt eich cynrychiolwyr cwrs.

Link to Find your Rep

Swyddi Cynrychiolwyr Cwrs

Mae ein cynrychiolwyr cwrs yn eich cynrychioli'n academaidd, gan helpu i ymdrin ag unrhyw broblemau sydd gennych gyda'ch cwrs! I hwyluso hyn, mae nifer o wahanol swyddi cynrychiolwyr, ac maent yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau y caiff pob myfyriwr ei gynrychioli'n deg ac yn ddigonol. Dyma sut mae cynrychiolwyr cwrs wedi eu strwythuro:

Ar hyn o bryd, y swyddogaethau sydd ar gael yw:

  • Cynrychiolydd israddedig (ar gyfer pob grŵp blwyddyn)
  • Cynrychiolydd ôl-radd hyfforddedig
  • Cynrychiolydd ôl-radd ymchwil
  • Cynrychiolydd myfyrwyr cyfrwng Cymraeg
  • Cynrynchiolydd myfyrwyr rhyngwladol
  • Cynrychiolydd myfyrwyr hŷn
  • Cynrychiolydd myfyrwyr anabl
  • Cynrychiolydd cydanrhydedd
  • Cynrychiolydd LHDTQ+
  • Cynrychiolydd Traws, Dirywedd & Anneuaidd
  • Cynrychiolydd Menywod
  • Cynrychiolydd Myfyrwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol
  • Cynrychiolydd Myfyrwyr Niwroamrywiol
  • Cynrychiolydd Myfyrwyr â Gwahaniaethau Dysgu Penodol
  • Uwch Gynrychiolwyr

Rydym ni bob amser yn chwilio am ffyrdd i'ch cynrychioli'n well - os oes gennych chi awgrym ar gyfer swydd cynrychiolydd newydd, cyflwynwch eich syniad yma. Os bydd digon o fyfyrwyr yn cytuno byddwn yn gweithio i geisio cyflawni hyn!

 

Ydych chi eisiau gwybod sut beth ydy bod yn cynrychiolydd cwrs? Gwyliwch y fideo hwn am ragor o wybodaeth!

 

Gwybodaeth i Gynrychiolwyr

Mae gennym ni lawer o adnoddau ar gyfer cynrychiolwyr, yn ogystal â fforymau lle gallwch rannu cyngor, arferion gorau a'ch llwyddiannau o fod yn gynrychiolydd!

 

Cysylltu â ni!

Oes gennych chi unrhyw gwestiynau am gynrychiolwyr cwrs? Eisiau cymryd rhan?

Mae croeso i chi anfon e-bost atom, naill ai i fewnflwch y cynrychiolwyr cwrs yn coursereps@undebbangor.com, neu drwy gysylltu â’n cydlynydd cynrychiolaeth yn uniongyrchol drwy e-bostio niamh.ferron@undebbangor.com

The Undeb Bangor course rep logo